PET(4)-01-12 p17a

P-04-321 Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Trenau Arriva Cymru yn darparu gwasanaethau trên i gymudwyr rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru sy’n amserol, yn gyfleus ac yn addas i’r diben ac sy’n cynnwys digon o seddi/gerbydau i alluogi teithwyr i deithio’n gysurus.

Linc i’r ddeiseb:  http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1014&optionId=0

Cyflwynwyd gan: Bjorn Rödde

Nifer y llofnodion: 162

 

Gwybodaeth ategol:

Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth Trenau Arriva Cymru i Fanceinion Piccadilly yn gadael Caerfyrddin am 05.50 ac yn cyrraedd Caerdydd Canolog am 07.40. Ar ôl 21 Mai, mae Trenau Arriva Cymru wedi penderfynu y bydd y gwasanaeth hwn yn dechrau o Gaerfyrddin 3 munud yn hwyrach, am 5.53, ond ni fydd yn cyrraedd Caerdydd Canolog tan 08:01. Mae hyn yn golygu na fydd y teithwyr niferus sy’n cymudo i Gaerdydd ar y gwasanaeth hwn i ddechrau gweithio am 08.00 yn cyrraedd y gwaith yn brydlon. Achosir yr oedi oherwydd bod y trên yn aros yn hirach yng ngorsaf Abertawe, sy’n golygu bod y cymudwyr sy’n aros ym mhob gorsaf i’r Dwyrain o Abertawe yn cael eu hoedi’n sylweddol. Yr ateb y mae Trenau Arriva Cymru’n debygol o awgrymu yw y dylid newid trenau yn Abertawe i’r gwasanaeth First Great Western i Lundain Paddington. Fodd bynnag, bydd y trên hwn yn cyrraedd Caerdydd Canolog am 7.52, ond ni fydd hwn chwaith yn gadael digon o amser ar gyfer y rhan fwyaf o gwsmeriaid i gyrraedd y gwaith erbyn 08.00. Yn ogystal, mae’n debyg y bydd y rhan fwyaf yn gwrthwynebu newid trenau oherwydd nerfusrwydd ac anghyfleustra. Mae’n rhesymol disgwyl gwasanaeth uniongyrchol wrth gymudo i'r gwaith. Fel deiliad masnachfraint rheilffyrdd Cymru, dylai Trenau Arriva Cymru ymrwymo i ddarparu gwasanaethau uniongyrchol ar gyfer y rhai sy’n teithio o fewn Cymru.

Mae'r rhan fwyaf o weithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth uchod yn dychwelyd adref ar y trên sy’n gadael Caerdydd Canolog am 16:04 (y gwasanaeth rhwng Manceinion Piccadilly ac Aberdaugleddau). Bydd amser y trên hwn yn newid i 15.54 ar ôl 21 Mai ac ni fydd y trên nesaf i orllewin Cymru yn gadael tan 17.04.

Bydd y rhan fwyaf o deithwyr yn gweld na fydd modd iddynt gyfiawnhau’r gostyngiad o 30 munud i’w diwrnod gwaith wrth eu cyflogwyr, a byddai’n anymarferol iawn iddynt deithio yn gynharach yn y bore neu’n hwyrach yn y nos i wneud yn iawn am y newid amser.

Mae’n debygol, felly, y bydd amserlen Trenau Arriva Cymru ar gyfer yr haf yn golygu y bydd y gwasanaeth cymudo hwn yn fath anaddas o gludiant cyhoeddus, gan arwain at lawer o gwsmeriaid presennol yn dewis teithio mewn car yn lle hynny.

Fel rhan o’r newidiadau hyn i’r amserlen, mae yna hefyd nifer o orsafoedd yng ngorllewin Cymru lle na fydd rhai gwasanaethau’n aros mwyach, gan olygu y bydd trafnidiaeth gyhoeddus hyd yn oed yn llai hygyrch nag y mae ar hyn o bryd yng ngorllewin Cymru. Mae’r teithwyr sy’n defnyddio’r gorsafoedd hyn yn teimlo eu bod wedi’u bradychu, oherwydd bod gan Trenau Arriva Cymru grwpiau cymunedol sy’n mabwysiadu eu gorsafoedd lleol i gynorthwyo eu gweithredu (yn arbennig yng ngorllewin Cymru). Mae’r grwpiau cymunedol hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser am ddim, ond ni fyddant bellach yn elwa o drenau sy’n aros yn aml yn eu gorsafoedd.

Ar nifer o ddyddiau, dim ond dau gerbyd ar gyfer teithwyr sydd mewn gwasanaeth rhwng Caerdydd Canolog a gorllewin Cymru; mae hyn yn arwain at ddiffyg lle ar gyfer teithwyr a bagiau, gyda staff yr orsaf drenau yn aml yn gwthio pobl ar y trenau fel y gall pob teithiwr fynd ar y trên. Mae hyn yn arbennig o amlwg ar brynhawn dydd Gwener ac mae teithwyr yn ystyried bod lefel yr anghysur yn annerbyniol.